Gwybodaeth . . .

Oriel Martin Tinney, Caerdydd

Arddangosfa o waith diweddar - gyda Mary Lloyd Jones

 

Tir - MOMA Cymru, Y Tabernacl, Machynlleth 21 Ionawr - 29 Chwefror
Arddangosfa'n teithio o fis Tachwedd 2010 ymlaen

Bu Catrin yn treulio 5 wythnos yn ystod Gorffennaf-Awst 2009 yn oriel Taigh Chearsabhagh, Lochmaddy ar ynys Gogledd Uist. Fe'i dewiswyd i gymryd rhan ym mhroject preswylfeydd Tir - project sy'n dod â orielau ac artistiaid o Gymru, Iwerddon a'r Alban at ei gilydd. Ymhen amser trefnir arddangosfa deithiol i'r holl artistiaid - fe'i gwelir yn: Oriel Plas Glyn-y-Weddw, Llanbedrog - Tachwedd a Rhagfyr 2010; Celtic Connections, Glasgow - Chwefror 2011; Sabhal Mor Ostaig, Skye; Taigh Chearsabhagh, Gogledd Uist; Neuadd y Ddinas, Galway; Aras Eanna, Inis Oirr; Ionad Culturtha, Co. Cork; Ionad an Bhlascaoid, Co. Kerry; Void Gallery, Derry; Y Tabernacl MOMA Cymru, Machynlleth; Oriel Llangrannog.

 

 

a geiriau charedig.

Yr artist abstract gorau yng Nghymru.
Syr Kyffin Williams - EBRIll 2003


Gwelir fod llawer iawn o’r paentio sydd i’w weld yng Ngymru yn dilyn yr un hen fformiwla - cymylau trymion, wynebau creigiog a garw, ambell fwthyn a ffermwr a’i gi. Mae fel awyr iach gweld artist sy’n creu ei hiaith bersonol ei hun. Dangosa’i llwyddiant wrth gyfuno’i gwaith pwytho gyda’r wynebau paentiedig fod Catrin yn talu gwrogaeth i draddodiad gwaith merched tra ar yr un pryd yn torri’n rhydd o’i hualau. Dathliad mewn ffrwydriad o liw ac egni brwdfrydig yw’r gweithiau hyn - maent yn adlewyrchu hunaniaeth a phersonoliaeth Catrin ei hun.
Mary Lloyd Jones - Mai 2007


I’w weithio mae’r tir iddi hi - i’n cartrefu, i’n bywiogi, i gynnig ffordd o fyw, i’w rhannu gan y gymdeithas. Mae delwedd rhamantus y tirlun - y ddelwedd honno sydd wedi ei chofleidio gan genhedlaethau o baentwyr - yn rhywbeth sydd tu hwnt i’w deall.
Tamara Krikorian - 1999

Hawlfraint © Catrin Williams
Cynllun - Almon