Un o bedwar o blant a fagwyd ar fferm fynyddig yng Nghefnddwysarn ym mhlwyf Penllyn yw Catrin Williams. Er bod pob un o’r pedwar wedi astudio Celf Safon Uwch, Catrin yn unig a aeth ymlaen i goleg celf – Coleg Celf Caerdydd. Erbyn heddiw, hi yw un o artistiaid cyfoes amlycaf a mwyaf cynhyrchiol Cymru.
Yn oriel Celf Canol Cymru yng Nghaersŵs y cynhelir ei harddangosfa nesaf, a cheir cyfle yno i weld yn agos at gant o weithiau amrywiol ganddi. Cefais olwg arnynt pan es draw i’w chartref ym Mhwllheli i’w holi ychydig wythnsau cyn yr agoriad.
‘Ro’n i’n arfer arddangos yn Oriel Tegfryn ym Mhorthaethwy,’ meddai, ‘ac wrth fy modd, gan fod y golau yn yr oriel honno mor arbennig. Ond mi gaewyd y lle, ac am gyfnod wedyn fues i’n arddangos yn Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd. Yno oedd fy “ffenest siop”. Yn sydyn ac annisgwyl, mi gyhoeddodd Martin yntau y byddai ei oriel yn cau. Ar y pryd, wyddwn i ddim ar y ddaear be wnawn i.
‘Ond mi sylwais i fod gŵyl gelf ar fin cael ei chynnal yn y Galeri yng Nghaernarfon. Penderfyniad ar y cyd â ’ngŵr [y dylunydd, Bedwyr ab Iestyn] oedd mynd â stondin yno. Wrth lwc, fu dim pall ar y diddordeb gafodd ei ddangos yn y stondin, nac ar yr ymholiadau am gomisiynau.
‘Tua’r un pryd mi wnaeth Gelf Gallery, Caerdydd, ddangos diddordeb yn fy ngwaith i, a’r oriel yng Nghaersŵs. Mae’r oriel honno’n enfawr. A’r gwahoddiad i arddangos yno oedd yr ysgogiad i greu rhagor o weithiau newydd, a hyd yn oed ailbobi ambell un!’
Cyn cychwyn ar bob darn o waith bydd Catrin yn gwneud dyluniad o’r llun sydd ganddi yn ei meddwl, a hynny’n hynod o ofalus. Bron na ddywedid bod y lluniadau hynny weithiau mor drawiadol â’r gwaith gorffenedig. ‘Du a gwyn yw’r drawings hyn,’ meddai, ‘ond erbyn hyn, dwi wedi mynd yn hoff iawn o liwiau. Ac o wnïo. Yn yr ysgol fach yn Sarnau, roedden ni i gyd yn cael dysgu gwau a gwnïo. Dwi ddim wedi anghofio’r crefftau hynny, nac ychwaith fedrusrwydd y merched yn fy hen gynefin – y merched hynny fyddai’n creu campweithiau yn y gegin ac ar yr aelwyd.’
Dangosodd imi rai o’r tirluniau a greodd. ‘Y mymryn gwnïo dwi’n ei wneud sy’n rhoi bywyd a symudiad i’r llun. Ro’n i’n arfer gwneud dillad i fy merch; tameidiau o’r defnyddiau oedd ar ôl sydd yn y lluniau yma. Do, dwi wedi bod yn ailgylchu ers blynyddoedd!’
Bydd tirluniau o ardal ei mebyd yn ogystal ag o Lŷn, ac o Bwllheli’n benodol, yng Nghaersŵs. Mae Pwllheli, lle mae Catrin wedi ymgartrefu ers blynyddoedd bellach, yn agos iawn at ei chalon. Dangosodd imi lun lliwgar o’r dref, ynghyd â’r dyluniad paratoadol. Rhyfeddais. ‘Cael caniatâd i fynd i fyny i lawr ucha neuadd y dre wnes i, er mwyn cael golwg iawn ar yr holl adeiladau,’ meddai Catrin.
Mae Catrin hefyd yn peintio ar ddefnydd, a ddefnyddir wedyn i greu clogynnau. ‘Dwi’n hoff iawn o’r ddwy gantores Gwenno Saunders a Lleuwen Steffan,’ meddai, ‘ac wedi gwneud clogyn bob un i’r ddwy.’ Paent ffabrig a ddefnyddia ar gyfer y gwaith hwn, ond mae’r broses o greu yr un mor fanwl ag yn y gweithiau eraill a’r canlyniad yr un mor lliwgar.
‘Welwch chi’r llun pen sydd ar y clogyn yma?’ holodd. ‘Pen Bendigeidfran. Mae o’n seiliedig ar un o greadigaethau’r artist serameg, Meri Wells. Dwi’n meddwl bod y ffotograffydd Anna Higson wedi cael hwyl eithriadol ar dynnu ffotograffau o’r clogynnau. Fy merch, Luned, sy’n eu modelu nhw.’
Erbyn hyn, mae hen gartref Catrin yng Nghefnddwysarn wedi’i wagio, a llawer o’r mân gelfi wedi dod i’w meddiant. ‘Doeddwn i erioed wedi meddwl llawer ohonyn nhw,’ meddai. ‘Ond rŵan dwi’n edrych arnyn nhw o’r newydd, ac wedi’u gweu nhw i mewn i’r lluniau bywyd llonydd yma.’
Mae ganddi lun o Arch Noa. ‘Rhaid cyfadde i mi gael ychydig o help i greu’r Arch, gan fy mab Elis, sy’n bensaer yn Llundain. Sylwch ar y lluniau o’r anifeiliaid bach – maen nhw wedi’u seilio ar hen deganau ni’n pedwar, a rhai o deganau’r plant. Mae dylanwad Pwllheli yn drwm arna’i. Fedrwn i ddim peidio cynnwys ambell gwch hwylio yn y blaendir, o flaen yr Arch!’
Ar gyfer Caersŵs, bydd Catrin yn dychwelyd at gynnwys cŵn tsieni yn ei lluniau. ‘Welwch chi nhw yn y llun yma? Fi pia’r ddau gi – ges i nhw’n anrheg gan fy modryb Glenys. Roedd hi wedi meddwl ’mod i’n hoff o antîcs. Chydig wyddai hi gymaint o amlygrwydd a gâi’r ddau!’
Thema arall sy’n ailymddangos yn ei lluniau diweddar yw’r te Cymreig – y cwpanau a’r soseri, a llun o’r tebot a gynlluniwyd gan yr artist tecstiliau, Cefyn Burgess, ac a welwyd yn ei arddangosfa ddiweddar yng Nghanolfan Grefft Rhuthun.
A’r cacennau sydd ar y platiau? ‘Na, nid atgof o ’ngwaith i ydi’r rheina! Anamal iawn y bydda i’n gwneud cacen. Atgof ydyn nhw o greadigaethau fy mam, ac atgof hefyd am de parti’r capel, a’r te fydden ni’n ei gael rhwng dau gyfarfod yn eisteddfodau lleol Penllyn.’
Bydd lluniau o lwyau caru tedis yn yr arddangosfa. Gweithdy dan ofal yr artist Julia Griffiths Jones a ysbrydolodd y rhain. ‘Mi fûm i a Luned yn un o weithdai Julia yn Sir Gaerfyrddin. Rhaid i’r drawings ar gyfer y lluniau yma fod yr un mor fanwl hefyd,’ meddai. Rhyfeddais eto, y tro hwn at ei gallu i greu’r fath agosatrwydd yn y lluniau gwreiddiol hyn.
Gweithiau eraill sy’n ennyn ymdeimlad o gynhesrwydd braf yw’r lluniau o flodau. ‘Teyrnged ydyn nhw i’m rhieni i ac i’m rhieni‑yng‑nghyfraith. Roedd y pedwar wrth eu bodd yn garddio. Nid blodau’n unig, cofiwch, ond llysiau ar gyfer y teulu hefyd.’ Mae ei lluniau o flodau yn dwyn i gof rai o weithiau’r artist tecstiliau Edrica Huws – un arall a oedd yn mwynhau garddio, ac a fu’n ddylanwad ar Catrin. A chyda’r arddangosfa’n cael ei chynnal mewn ardal amaethyddol, bydd y lluniau sy’n seiliedig ar nodau clust defaid – gwaith sy’n ymestyn yn ôl dros 25 mlynedd – yn sicr o ddenu sylw.
Bydd nifer o weithiau haniaethol i’w gweld yng Nghaersŵs hefyd, yn deillio o gydweithio gyda’r cerddor jazz byd‑enwog Huw Warren. Wrth iddo chwarae’r piano byddai Catrin yn ‘peintio’r synau a’r rhythmau dramatig ar bapur neu iPad’.
Yn ogystal â’i phrysurdeb yn gwneud ei gwaith ei hun, mae Catrin yn gwneud llawer i ysbrydoli eraill i greu, yn blant a phobl mewn oed. Bu’n gweithio ar nifer fawr o brosiectau mewn ysgolion, colegau a chymunedau, gan hyrwyddo celf yn ogystal â hanes a thraddodiadau Cymru. Bu’n annog artistiaid ifanc lleol i gyflwyno’u gwaith i Eisteddfod Genedlaethol Boduan, ac i Oriel Glyn y Weddw, Llanbedrog. Mae Gwyn Jones, cyfarwyddwr Glyn y Weddw, wedi cydsynio i arddangos gwaith yr artistiaid hyn yn yr oriel ym Mai 2025. Catrin fydd yn curadu’r arddangosfa honno.
Rhaid rhyfeddu at ei hegni, ei dychymyg, ei brwdfrydedd a’i dyfalbarhad. Mae ei gwaith newydd yn arbennig iawn. Does ryfedd yn y byd fod Kyffin Williams wedi datgan mai Catrin Williams yw’r artist haniaethol gorau yng Nghymru.
Copyright © Catrin Williams
Design - Almon