Tasa'r llun yn gallu siarad,
byddai rhai yn clywed
am Bwllheli a fu,
a faglodd,
a gollodd ei awch,
lle lluchiwyd y gladrags
a daeth stryd dan dawch.
Fy Mhwllheli i yn blentyn
oedd Llŷn Sports, Joshua Tree,
bonbons gwyn Siop Eluned,
Ethel Autsin cyn bys dri.
Ciniawa yng ngornel Gwalia
efo 'nghyflog pitw bach,
a gadael wedyn â dwy ice-bun
yn llawn ieuenctid iach.
Y Pwllheli welaf yn y llun
yw'r un a brofais i fy hun,
ac er y sôn sy’n dew drwy'r fro
bod fan hyn "'di mynd â'i ben iddo" -
fynnwn i ddim ag anghofio’r lle
yn fíri lliwgar drwyddo.
A thra ein bod ni’n dal i gofio,
mae gobaith i Dre godi eto.
Copyright © Catrin Williams
Design - Almon