
Mae artist sydd wedi treulio degawdau yn creu gwaith celf lliwgar yn nodi pen-blwydd arbennig gydag arddangosfa newydd.
Bydd Llwybr Amser gan Catrin Williams yn Oriel Môn drwy gydol yr haf, wrth i’r beintwraig o Benllyn ger y Bala ddathlu’r 60 oed eleni.
Ers gadael y coleg, mae Catrin, sydd bellach ym Mhwllheli, wedi cynnal gyrfa fel artist drwy ei lluniau lled-haniaethol, llawn lliw.
Mae’r arddangos, sydd yn yr oriel yn Llgngefni tan ddechrau Medi, yn cynnwys ambelj ddarn sydd yn estyn yn ôl dros 25 mlynedd, tra bo eraill yn weithiau mwy diweddar.
Yn eu plith, mae Catrin wedi cynnwys golygfeydd, bywyd llonydd a darnau mwy haniaethol.
“Dw i yn dathlu 60, ac efallai bod hwnna yn rhywbeth eithaf rhyfeddol, fy mod i dal yn gallu cynnal fy hun fel artist proffesiynol ers i fi adael coleg,” meddai Catrin.
Yn ogystal â pheintio, mi fu yn cynnal gweithdai gydag ysgolion a chymunedau er mwyn cynnal ei gyrfa.
Yn yr ysgol gynradd yn Sarnau, roedd Catrin wrth ei bodd yn actio, canu a chwarae’r piano, a daw o deulu celfyddydol iawn. Eglura ei bod hi, yn ystod ei harddegau, wedi mynd yn “ofnadwy o nerfus” ar Iwyfan ac yn ansicr iawn o ba drywydd i’w ddilyn ar ôl gadael yr ysgol.
Cafodd le yn Aberystwyth i astudio drama, lle yn y Coleg Cerdd a Drama i astudio cerdd, ond yn y pendraw aeth i Goleg Normal, Bangor i wneud cwrs addysg. Ond roedd celf yn denu, a symudodd i wneud Cwrs Sylfaen mewn celf a chael hwnnw at ei dant.
“Y peth gorau wnes i! Roeddet ti yn dysgu sut i beintio ac arbrofi, ond doedd o ddim yn yrfa. Wnaethon nhw ddim dangos sgiliau i ti wneud pres,” meddai Catrin, gafodd addysg ym Mangor gan artistiaid megis Peter Prendergast, cyn symud i Gaerdydd yn 1989.
“Dw i yn cofio Peter Prendegast yn dweud wrtha i: ‘There will be highs, Catrin, and there will be lows’. Dw i jyst eisiau dathlu’r ffaith fy mod i dal yma a dal i gynhyrchu.
“Roeddwn i yn ffodus iawn, roedd gen i deulu o fy nghwmpas i a fi ydy’r babi. Dw i yn cofio Robin fy mrawd, oedd yn brifathro yn Ysgol Llanrug, yn dweud wrtha i fod toiled y bechgyn ddim yn neis iawn, [a gofyn a wnawn i] beintio fo. Wnaeth o ddim talu lot ond mi wnaeth o dalu fi. Dw i yn cofio fy mrawd hynaf, Huw, yn rhoi teledu i fi am lun.
“Dw i wedi defnyddio’r dalent yna, dw i yn cyfnewid swyddi weithiau - os dw i eisiau i rywun wneud rhywbeth i fi fe wna i yrru llun, ac maen nhw yn aml iawn yn derbyn y peth. Mae yna ffordd o oroesi fel artist, a dw i wedi bod yn lwcus.”
Ymysg y gwaith yn Oriel Môn, sydd yn cynnwys celf ar gotiau a chlogynnau hefyd, mae rhywfaint o waith wedi ei ddylanwadu gan Pat Morgan o’r band Datblygu. Drwy brosiect ‘Rebelio yn dy Arddegau’ Cwmni’r Frân Wen, cafodd Catrin gyfle i rannu ysbrydoliaeth gyda Pat Morgan. Roedd y ddwy wedi dod ar draws ei gilydd yn agoriad un o arddangosfeydd Catrin ychydig flynyddoedd yn ôl, a’r artist yn “starstruck” pan soniodd Pat Morgan ei bod hi yn hoff o’i gwaith.
“Fe wnaethon ni wneud y prosiect yma gyda’n gilydd, treulio amser yng nghwmni ein gilydd, dod i adnabod ein gilydd a ryw fath o greu perfformiad. Roeddwn i wedi bod yn ei chartref hi. Roeddwn i yn gwybod be oeddwn i eisiau wneud, gwneud paentiadau amdani hi. Dw i ddim yn gwybod os dw i wedi ysbrydoli hi, ond mi gafon ni lot o hwyl,” meddai Catrin, gan bwysleisio ei bod wedi bod wrth ei bodd yn gweithio â cherddorion megis Huw Warren, Iwan Llewelyn-Jones a’r Anrhefn yn y gorffennol.
“Mae yna lot o [ddylanwadau Pat yn y darnau newydd] - y llestri a’r te, gitâr drydan, delweddau o bosteri, tylluan, angel.
“Dim yn unig bod Pat yn gerddor o fri, ei bywoliaeth hi oedd bod yn gemist. Mae hi yn ddynes ofnadwy o glyfar, penderfynol, cryf, ac mae hi yn caru ffasiwn. Mae hi hefyd wrth ei bodd efo The Prisoner a mynd i Bortmeirion, roedd hwnna yn agor drysau’r dychymyg i fi.
“Dw i wedi bod yn ffodus iawn i gyfarfod y bobol dalentog ofnadwy yma... Pat sydd wedi tueddu i gymryd drosodd, a hefyd mae gen i dri phaentiad efo dylanwad Lleuwen a Gwenno Saunders. Mae’r clogynnau fel tasen nhw yn cael eu gwisgo ganddyn nhw yn fy nychymyg.”
Mae’r dylanwadau ar waith Catrin wedi newid dros y blynyddoedd, ond yr un grym sydd yn ei gwthio i greu erioed. Er bod profiadau yn rhoi syniadau i’w hisymwybod, mae troi at gelf yn reddf naturiol.
“Dw i yn cael lot fawr allan ohono fo, mae yna iechyd meddwl yn fy nheulu i dw i yn meddwl, a dw i yn cael boddhad anferthol. Dw i yn creu achos dw i methu peidio creu. Dw i yn meddwl bod pobol greadigol yn gorfod bod yn greadigol,” meddai Catrin.
“Roeddwn i yn cael yr un wefr pan oeddwn i yn chwarae lot o biano pan oeddwn i yn ifancach, a dw i yn canu dal.
“Mae o yn wefr. Dw i yn hunanol iawn efallai, fy mod i yn creu ar gyfer fy hun.”
Mae’r profiad o fyw yng Nghymru yn plethu drwy ei gwaith hefyd. Tua ugain mlynedd yn ôl, roedd Catrin yn gweithio ar gasgliad o nodau clust defaid ffermydd ei bro. Er eu bod nhw wedi cael eu dangos yn y Mission Gallery yn Abertawe, doedd dim cymaint â hynny o ddiddordeb ar y pryd a phobol Abertawe yn meddwl mai surfboards oedden nhw. Ond wrth i amser fynd ei flaen, daeth y nodau clustiau yn arbennig o boblogaidd a gwragedd ffermydd Llýn a thu hwnt wrth eu boddau.
“Fe wnes i greu’r nodau clustiau am fod y ffermydd bychan yma yn diflannu, am fod ein hanes ni yn diflannu. Roedd fy nhad yn adnabod pob un nod clust o ardal Penllyn. Rhywbeth fel yna sydd yn digwydd i fi a dw i yn gwneud rhywbeth yn ymateb,” eglura.
“Yn ddiweddar, rydyn ni wedi gwerthu’r cartref yng Nghefnddwysarn [ger Penllyn], ac wedi llwyddo i werthu fo i bobol leol. Wedyn roedd casglu’r stwff oddi yno... mae hynny wedi bod yn yr ymateb.
“Mae gen i ddarn o waith, ‘Llwybrau Atgofion’, mae yna ddelweddau dw i wedí sgetsio o Ben Foel, tirlun Penllyn.
“Mae o yn dod o’r isymwybod gen i. Fel mae beirdd a cherddorion yn dweud bod o yn llifo allan.”
Y peth arall sydd wedi aros yn gyson ers iddi adael y coleg a dod yn artist proffesiynol yw ei defnydd o liw. Ar y cyfan, mae ei gwaith yn cynnwys lot o liwiau cynradd, llachar, boed yn weithiau llai neu yn furluniau neu gomisiynau mwy.
“Pan oeddwn i yn Ysgol y Berwyn, mae’n rhaid fy mod i yn rêl goth achos roeddwn i yn defnyddio lot o liwiau tywyll. Yn ystod y cwrs sylfaen, fe wnaeth o wneud i fi edrych ac fe wnes i sylwi am y tro cyntaf: ‘Waw, mae’r mynyddoedd yn biwsl’
“Mae profiadau yn newid fy lliw. Fe wnes i golli mam ac aeth popeth yn frown a du a gwyn, ond wedyn pan wnes i golli dad roedd o yn fwy lliwgar.”
Mae teulu Catrin yr un mor greadigol â hi, ei gŵr Bedwyr ab lestyn yn ddylunydd ac yn gyfrifol am ei gwefan, catrinwilliams.co.uk, eu mab Elis yn gweithio fel pensaer yn Llundain a’u merch Luned yn athrawes gerddoriaeth ac wrth ei bodd â chelf a dylunio hefyd.
Mae Catrin yn cydnabod y gefnogaeth mae hi wedi ei chael dros y blynyddoedd, gan orielau megis Oriel Martin Tinney yng Nghaerdydd gynt a Celf Gallery yno nawr. Doedd hi byth yn un am fynd am grantiau ac arian cyhoeddus, ac mae yn rhyfeddu gweld y genhedlaeth nesaf yn cymryd at ei gwaith.
“Mae rhieni oedd wedi prynu gwaith gen i flynyddoedd yn ôl [yn dod ata i] ac yn dweud bod eu plant nhw wedi mynd â’r gwaith i’w cartref nhw. Mae hynna yn anrhydedd.”
Ar ôl y cynnwrf greodd Eisteddfod Genedlaethol Boduan ymhlith y celfyddydau ym Mhen Llŷn yn 2023, ac wrth weld diffyg cyfleoedd i artistiaid ifanc ddangos a gweld gwaith celf, penderfynodd Catrin sefydlu grŵp i ddod ag artistiaid lleol ynghyd. Dewisodd 16 o artistiaid o Ben Llŷn - rhai yn baentiwr, rhai yn gweithio gyda thecstilau, eraill yn ffotograffwyr - a gyda’i gilydd fe wnaethon nhw ffurfio Bôn. Mae’r criw eisoes wedi cael un arddangosfa ym Mhlas Glyn-y-weddw, a’r bwriad yw dangos mwy o’u gwaith yn Oriel Môn mewn ychydig o flynyddoedd.
“Be sydd yn ffantastig i fi ydy eu bod nhw yn fflio mynd rŵan, y rhan fwyaf ohonyn nhw, mae ganddyn nhw yrfaoedd bron iawn gwell na fi. Dw i yn cael syniadau ac egni ganddyn nhw.”
Copyright © Catrin Williams
Design - Almon