Archive

An article from Golwg - Welsh weekly magazine - about Catrin's recent works … the 2 metre high bust of Beethoven suspended in the foyer at Galeri, Caernarfon, and an exhibition of lockdown created works at the Royal Cambrian Academy, Conwy.

 

Golwg

7 October 2021 – by Non Tudur

 

“Pen Beethoven yn y garej ers blwyddyn â hanner”

Os ewch i Galeri yng Nghaernarfon ac edrych tua’r nenfwd, fe welwch chi lygaid mawr Beethoven yn edrych i lawr arnoch...

Gwaith yr artist Catrin Williams a’i gŵr yw’r pen papier maché enfawr o Beethoven sy’n llenwi cyntedd Galeri ar hyn o bryd.

Fe wnaeth hi’r pen hynod gyda chymorth ei gŵr, y dylunydd graffeg Bedwyr ab Iestyn, yn arbennig ar gyfer Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru sy’n digwydd ar 15 - 18 Hydref

Mae’r pen wedi bod yn llenwi garej y pâr creadigol yn eu cartref ym Mhwllheli ers dros flwyddyn - ac roedden nhw’n falch o’i weld yn mynd!

“Mae Bedwyr yn berson sy’n medru creu bob math o bethau,” meddai Catrin Williams. “Mi wnaeth Iwan Llywelyn Jones (trefnydd yr ŵyl biano) benderfynu ei fod o eisio Beethoven fel cerflun yn ystod yr ŵyl. Mi wnes i sôn wrth Bedwyr, ac mi wnaeth o ddweud, ‘o, iawn, ocê.’ Y broblem ydi, mae’r gofod yn Galeri yn anferth.

“Roedd hyn i fod i ddigwydd tua blwyddyn a hanner yn ôl i ddathlu pen-blwydd Beethoven, ond oherwydd Covid mae o’n digwydd rŵan. Felly mae pen Beethoven wedi bod yn y garej ers blwyddyn a hanner. Mae yn rhannu’n bedair rhan - dyna’r unig ffordd roedden ni’n gallu ei gario fo yn y car i Galeri.”

Fe fydd hi’n cynnal gweithdai gydag Iwan Llywelyn Jones dros y pythefnos yma yn rhan o’r Ŵyl Biano.

“Rydan ni jyst am fynd i mewn i ddwy ysgol ac mae Iwan am fynd i fod yn chwarae Beethoven, ac mae’r bobol ifanc yn mynd i roi rhyw baentiadau cerddorol o’r gerddoriaeth ar bapur,” meddai.

 

Creu i Lleuwen a Gwenno

Diolch i’r pandemig y llynedd, fe gafodd yr artist Catrin Williams gyfle i droi ei llaw at sawl peth gwahanol - gan gynnwys creu clogynnau a chotiau lliwgar i ddau gerddor pop enwog.

Mae’r clogynnau, ynghyd â’i phaentiadau diweddaraf, i’w gweld yn ei harddangosfa ‘Dawnsio’r Polca’ yn Oriel Cambrian yng Nghonwy ar hyn obryd.

Cafodd yr artist ei magu ar fferm fynydd yng Nghefnddwysarn ger y Bala ond mae hi wedi byw ger y môr ym Mhwllheli ers 1996. Mae hi’n enwog am ei thirluniau lliwgar, haniaethol o’i hardal enedigol ym Mhenllyn, er mai Pwllheli a thraethau Llŷn sydd bellach yn ei hysbrydoli.

Yn ei gwaith diweddaraf mae yna wahanol ddelweddau a symbolaeth o Gymreictod, fel y ladi fach Gymreig, y ddresel a’r llestri te, y ddraig, a darnau o chwedloniaeth. Mae arnyn nhw deitlau fel ‘Melangell’ a ‘Merch y Mieri’. “Dw i’n iicio’r enw Melangell,” meddai’r artist. “Mae rhywbeth swynol iawn amdano fo.”

Oherwydd Covid y llynedd, a hithau’n gaeth i’r stiwdio, aeth i bori drwy hen fraslyfrau. Daeth o hyd i sgetsys roedd hi wedi eu gwneud yn rhan o gyfnod preswyl y sefydliad Cywaith Cymru tua 20 mlynedd yn ôl, yn seiliedig ar y ddwy foneddiges Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, sef y Ladies of Llangollen, a oedd yn enwog am eu cyfeillgarwch rhamantus.

“Roedden nhw’n egsentric, yn byw yn y tŷ yma, a phobol yn rhoi cerfluniau iddyn nhw,” meddai. “Mae lot o drawings o’r cyfnod yna o ddreigiau, o ferched, cerfluniau... a’r holl siapiau.”

Fe welwch chi rai o’r delweddau yma yn ei phaentiadau newydd fel ‘Dawnsio’r Polca’ a ‘Y Ferch â’r Delyn ar ei Phen’, sydd hefyd yn cyfeirio at y delynores amryddawn Llio Rhydderch.

Dylanwad arall ar jt arddangosfa yw’r artistiaid poblogaidd Gwenno Saunders a Lleuwen Steffan. Y gân ‘Bendigeidfran’ gan Lleuwen yw’r ysbrydoliaeth y tu ôl i’w darlun o’r un enw. Roedd y gân, sy’n galaru am effaith Brexit ar berthynas Cymru â gwledydd eraill, wedi “hitio bob hoelen” i’r arlunydd.

“Oherwydd eu bod nhw’n trîo ein ffensio ni fewn, a bod ein rhyddid ni’n diflannu,” meddai. “Trio creu pontydd rydan ni eisio gwneud. A dw i’n hoff iawn o stori Branwen, a dw i’n eu defnyddio nhw lot mewn gweithdai celf mewn ysgolion.”

Mae neges rymus amlieithog Gwenno hefyd wedi taro deuddeg ag egwyddorion cenedlaetholgar yr artist o Benllyn.

“Mae albym Gwenno (Le Cov, 2018) yn anhygoel,” meddai, “a’r ffaith ei bod hi wedi ei gwneud hi yng Nghernyweg. A dw i wrth fy modd â chelf Cernyw... wedi bod yn ymweld lot â St Ives... Ond mi’r ydach chi’n mynd yno, ac yn meddwl dydi’r bobol go-iawn ddim yn byw yn St Ives. Mae’r creisus sydd wedi digwydd a beth sy’n digwydd yng Nghymru efo’r tai haf... Ac mae YesCymru yn codi, a dw i wedi bod mewn dwy orymdaith, a’r holl egni a’r brwdfrydedd...”

 

Clogyn i Le Cov

Yn y cyfnod clo, penderfynodd Catrin wnïo clogynnau a chotiau ag arnyn nhw ei darluniau a’u henwi ar ôl Gwenno a Lleuwen, ac maen nhw i’w gweld yn yr oriel yng Nghonwy.

“Roedd gen i gymaint o amser ar fy nwylo, mi wnes i ddau glogyn efo’r symbolaeth yma - lot o’r merched, y dreigiau, y siapiau,” meddai. “Ro’n i’n gwneud un i Gwenno Saunders yn defnyddio lot o biws a choch ac oren, ac wedyn roedd rhai Lleuwen yn defnyddio glas a gwyrdd.

“Doedd gen i ddim digon o ddefnydd. Roedd siop wnïo Hafina yn cau ac mi wnes i ddefnyddio cynfasau gwely, be bynnag oedd gen i. Maen nhw’n eitha’ anhygoel.”

Darn am gerddoriaeth eto yw’r darlun ‘Cof Cenedl’. “Ro’n i eisio gwneud rhywbeth am gerddoriaeth,” meddai. “Mi wnes i jest gosod yr acordion, a’r gitârs... achos dw i’n dod o deulu cerddorol. Mae fy merch wedi gwneud gradd mewn Cerddoriaeth... mae fy ngŵr yn chwarae’r gitâr... Rydan ni drwy’r adeg yn gwrando ar gerddoriaeth wahanol.”

 

Cadw'n brysur

Yn ystod y cyfnod clo, penderfynodd Catrin greu printiadau o rai o’i darluniau a’u gwerthu ar Instagram.

“Roedd pawb yn cysylltu ar Instagram a lot o bobol ifanc yn gofyn ‘a wyt ti’n creu prints?’

“Roedd un ferch yn gofyn, ‘mae gen i hiraeth am Lanuwchllyn - oes gen ti brints o’r Aran?’ Wedyn mi wnes i benderfynu gwneud 25 print. Maen nhw’n dal yn eitha’ gwerthfawr. Mae’r rhain i gyd wedi’u gwerthu.”

Fe wnaeth brintiadau hefyd i’w gwerthu yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw, ond fe gafodd yr arddangosfa ei gohirio tan fìs Ionawr 2022, ac fe werthodd y rheiny i gyd ar Instagram.

Mae hi wedi gwneud rhagor i gyd-fynd â’r darluniau yng Nghonwy, gan gynnwys ‘Dawnsio’r Polca’ ac ‘Y ferch â thelyn ar ei phen’.

“Ond dw i ddim yn gwerthu’r rhain ar Instagram. Maen nhw yn yr oriel rŵan yn cael eu gwerthu. Mae o’n bwysig ein bod ni’n cefnogi orielau... er eu bod nhw’n cymryd hanner y gwerthiant. Os nad ydan ni’n prynu mewn orielau, fydd ganddon ni ddim orielau.”

O ran ei gyrfa, fe fydd hi’n treulio rhan fawr o’i hamser yn cynnal gweithdai celf mewn ysgolion. Mae hi newydd fod yn cynnal gweithdai yn Ysgol Dyffryn Ogwen, a bydd hi’n mynd i bum ysgol arall yn rhan o’r cynllun ‘LleChi’.

“Mae o’n anrhydedd cael mynd i fewn ac allan o ysgolion ac ysbrydoli pobol ifanc, a’u hannog i gael parch yn eu cynefin, a dysgu sgiliau,” meddai. “Mae’r athrawon mor glên, ac mor groesawgar.”

 

Gŵyl Biano Ryngwladol Cymru, Galeri, Caernarfon. 15 - 18 Hydref
Catrin Williams, Dawnsio’r Polca, Academi'r Cambrian, Conwy, tan 9 Hydref

Copyright © Catrin Williams
Design - Almon